Gwybodaeth am MEECE

alt full container

Ein Gweledigaeth

Rhoi Cymru a chwmnïau o Gymru wrth wraidd sectorau ynni adnewyddadwy morol ac alltraeth, gan sicrhau eu bod yn chwarae rôl hanfodol wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd byd eang a datgarboneiddio ein hanghenion ynni.

Ein Cenhadaeth

Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol yw hwb canolog ORE Catapult ar gyfer hyrwyddo’rsectorau ynni adnewyddadwy morol ac alltraeth yng Nghymru. Rydym yn gatalydd ar gyfer ymchwil, arloesedd technoleg a phrofi ac arddangos er mwyn cyflymu’r broses o fasnacheiddio’r sectorau tonnau, llanw ac ynni gwynt ar y môr trwy leihau costau ynni, gwella effeithlonrwydd a dibynadwyedd, a chefnogi twf y gadwyn gyflenwi Gymreig.

Mae’rcynllun gwerth miliynau o bunnoedd yn gydweithrediad rhwng ORE Catapult a phedair Prifysgol yng Nghymru: Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Bangor, yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gyda’r ganolfan wedi’i lleoli yn Noc Penfro. Mae’n rhan o brosiect Morol Doc Penfro gwerth £60 miliwn o bunnoedd. Gan weithio ochr yn ochr ag Ardal Brawf Ynni Morol (META), Porthladd Aberdaugleddau, Parth Arddangos Sir Penfro, prifysgolion lleol a’r gadwyn gyflenwi leol, mae’r Ganolfan yn cynnig adnoddau a galluoedd unigryw i’r sector ynni morol Gymreig.

Beth ydym yn ei wneud

Mae MEECE yn cefnogi cwmnïau arloesol yng Nghymru (gweler cymhwysedd) i ddatblygu cynnyrch newydd, prosesau a gwasanaethau ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy ar y môr. Gallwn gynnig cymorth mewn tair prif ffordd:

Ymchwil, Datblygu ac Arloesi

  • • Prosiectau ymchwil desg i sefydlu dichonoldeb ac effaith, gan gynnwys:
      • Modelu problemau peirianyddol yn rhifiadol er mwyn arfarnu dichonoldeb technegol.
      • Modelu economaidd i fesur yr effaith y mae datblygiadau arloesol yn eichael ar leihau costau ynni adnewyddadwy ar y môr.
  • Archwiliadau Asesu Technoleg am ddim trwy ein system TAP.
  • Mynediad at arbenigedd ymchwil sy’n arwain y byd gan Catapult a’n Prifysgolion partner, yn ogystal â chael mynediad i’n Hybiau Ymchwil mewn Llafnau, Powertrains ac Isadeiledd Trydanol.
  • Prosiectau arloesi ar y cyd i gefnogi datblygiadau technolegolheb unrhyw gost (neu gost fechan iawn) i’r cwmni, gan gynnwys adeiladu prototeipiau o dechnolegau newydd a chydlynu ymgyrchoedd prawf er mwyn darparu data gwirioneddol ar berfformiad a dibynadwyedd.
  • Lansio heriau arloesi i ddiwydiant, gan geisio atebion traws-sector
  • Hwyluso mynediad at arbenigedd trwy Ganolfannau Rhagoriaeth eraill Catapult mewn Gweithrediadau a Chynnal a Chadw a Gwynt Arnofiol ar y Môr, yn ogystal â’n harbenigedd rhanbarthol ar draws y DU a Rhwydwaith Catapult.
  • Gallwn ddarparu mynediad i ystod eang o gyfleusterau profi unigryw a safleoedd alltraeth i arddangos arloesedd heb y costau a’r risgiaua wynebir gan ddatblygwyr technoleg, gan gynnwys
      • Ardal Brawf Ynni Morol (META)
      • Cyfleusterau yn ein Prifysgolion partner, gan gynnwys tanciau ffliw a thwneli gwynt.
      • Ein cyfleusterau prawf sy’n arwain y byd yn y Ganolfan Ynni Adnewyddadwy Cenedlaethol yn Blyth, a’n Tyrbin Arddangos 7MW ynLevenmouth.

Cymorth Masnacheiddio

  • Darparu gwybodaeth mynediad i’r farchnad o ran maint, cyfle, chwaraewyr allweddol a chystadleuwyr ac ati.
  • Cefnogaeth i hyrwyddo technolegau hyd at fasnacheiddio trwy gael mynediad i raglenni diwydiannol arweiniol sy’n cynnwys ein Hacademïau Lansio Cenedlaethol a Rhanbarthol.
  • Datblygu achosion busnes manwl yn benodol i’ch technoleg chi, gan gynnwys strategaethau ecsbloetio posibl a modelu ariannol a dadansoddiad o fabwysiadu technoleg newydd.
  • Mynediad at fuddsoddiad preifat trwy gyflwyniadau i fuddsoddwyr sector benodol a chymorth wrth baratoicyflwyniad gweithredol.

Cymorth Twf Cwmnïau

  • Cefnogi cwmnïau o Gymru i fanteisio ar gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi drwy gael mynediad i raglenni cefnogi diwydiant ac ORE Catapult, gan gynnwys partneriaeth Offshore Wind Growth Partnership a rhaglenni alltraeth adnewyddadwyFit 4 Offshore Renewables Programmes .
  • Cyngor ac arweiniad wrth chwilio am gyfleoedd allforio mewn marchnadoedd sy’n datblygu

Hoffem glywed gan fusnesau bach a chanolig arloesol (SME) sydd â thechnolegau a chysyniadau arloesol y gall MEECE eu cefnogi hyd at fasnacheiddio. Gallwn weithio ar draws yr holl Lefelau Parodrwydd Technoleg (TRL), o gysyniadau sylfaenol hyd at brototeipiau cyn-cynhyrchu. Cliciwch yma i weld esiamplau o rai o’n prosiectau presennol.